Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Data Manager

Greater London, England, GB

£36.1k
8 days ago
Save Job

Summary

Rheolwr Data

Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth

Yr Ysgol Meddygaeth

Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd

Dyma gyfle cyffrous i fod yn aelod o dîm astudio a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal sy’n gweithio i ddeall diogelwch, risgiau a chydbwysedd y niwed a’r manteision sy’n deillio o ofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Arweinir yr astudiaeth hon gan yr Athro Andrew-Carson Stevens, Athro Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Athro Andrew Carson-Stevens a chydweithwyr yn yr Ysgol Meddygaeth, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) Prifysgol Caerdydd, ein cyfranwyr cyhoeddus, ENRICH Cymru a Choleg Prifysgol Llundain.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig wrth reoli cronfa ddata ymchwil yr astudiaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm astudio i ddylunio cronfa ddata astudio, yn sicrhau’r gwaith o drosglwyddo a rheoli data sensitif yn ddiogel yn ogystal â bod yn gyfrifol am lywodraethu data. Byddwch yn sicrhau ansawdd y data cyn iddo gael ei archwilio a’i ddadansoddi. Byddwch hefyd yn defnyddio’r gronfa ddata i dynnu a chynhyrchu data ar gyfer cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid ac archwiliadau. Bydd disgwyl ichi ddatblygu perthnasoedd cryf gyda staff academaidd, clinigol / gwasanaethau, gan gydweithio â nhw. Byddwch hefyd ynghlwm wrth ddatblygu, rheoli a diweddaru gofynion cytundeb rhannu data gyda sefydliad partner.

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â’r Rheolwr Astudio, Dr Joy McFadzean, Darlithydd Clinigol Diogelwch Cleifion, Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, [email protected] i drefnu trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais.

Cyflog: £33,482 – £36,130 y flwyddyn, pro rata (Gradd 5)

Fel arfer, bydd unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

Dyma swydd ran-amser (28 awr yr wythnos) rhwng dydd Llun a dydd Iau am dymor penodol a bydd ar gael o 1 Mawrth 2025 tan 28 Chwefror 2027.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ym Mharc y Mynydd Bychan.

Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ yn berthnasol i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio gartref yn rhannol ac yn rhannol o gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 02 Mai 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 18 Mai 2025

Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.

Prif Swyddogaeth

Cefnogi'r Brifysgol ym maes rheoli data gan wneud gwaith cefnogol, rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth, yn ogystal ag arwain prosiectau yn y maes hwn.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Prif Ddyletswyddau

Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch prosesau a gweithdrefnau rheoli a llywodraethu data i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.

Ymchwilio a dadansoddi problemau penodol ym maes rheoli a llywodraethu data, gan greu adroddiadau sy’n cynnwys argymhellion, ar y cyd â datblygiadau yn y maes hwn.

Sicrhau bod y gwaith o reoli a llywodraethu data yn digwydd yn y Brifysgol a bod y ddarpariaeth yn cael ei newid yn unol â gofynion y cwsmer.

Cydweithio ag eraill er mwyn cyflwyno argymhellion i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig

Meithrin perthynas waith ag enwau cyswllt allweddol, gan greu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen

Sefydlu gweithgorau penodol ymhlith cydweithwyr ledled y Brifysgol i gyflawni amcanion adrannol

Goruchwylio timau prosiect penodol o bryd i'w gilydd i gyflawni amcanion allweddol

Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ym maes llywodraethu data

Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo’r adran

Cyfarwyddo ac arwain cyflogeion eraill ym mhob rhan o’r Brifysgol ym maes llywodraethu data yn ôl yr angen

Dyletswyddau Cyffredinol

Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd

Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl

Meini prawf dymunol

  • Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
  • Profiad o weithio ym maes addysg uwch
  • Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

Cymwysterau ac Addysg

  • Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

  • Profiad sylweddol o weithio ym maes rheoli data.
  • Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol ym maes llywodraethu ymchwil, systemau a gweithdrefnau data a rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol
  • Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
  • Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

  • Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; dod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig yn ogystal â datrys problemau sydd â sawl canlyniad posibl
  • Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol ym maes rheoli data.
  • Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill a monitro’r cynnydd

Arall

  • Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach

How strong is your resume?

Upload your resume and get feedback from our expert to help land this job

People also searched: